Home » Llety

Llety

Lle mae treftadaeth yn cwrdd â moethusrwydd...

Arhoswch mewn llety gwely a brecwast modern gyda golygfeydd o'r Castell. Neu dewch a ffrindiau a theulu i aros yn ein llety hunan darpar 5* yng nghanol safle'r Castell.

Tu fewn i furiau'r Castell, mae dwy erw o erddi a golygfeydd arbennig dros afon Teifi. Tu allan i'r muriau, fyddwch yng nghalon Aberteifi, yn gyfagos i barc yr arfordir, mynyddoedd y Preseli, Ceredigion a Sir Benfro.

Mynediad am ddim i'r Castell os ydych chi'n aros yma! Bwciwch nawr!

Recommended by The Telegraph

9 allan o 10 yn ôl Y Telegraph

"Looking back on a 900-year history and out across the meandering River Teifi. Cardigan Castle houses slick b&b and self-catering quarters, which combine minimalist décor with medieval clout. Locally procured and garden-grown produce go into the flavoursome dishes served in restaurant 1176"

The Telegraph

Ystafelloedd

Lle mae treftadaeth yn cwrdd â moethusrwydd.

Wedi eu lleoli yn Nhŷ’r Castell, mae ein hystafelloedd gwely a brecwast yn cynnwys cyflysterau te a choffi yn ogystal â deunydd ystafell ymolchu organig.

Mwynhewch frecwast Cymreig ym mwyty 1176, neu hamper yn eich gwely.

Mwy o fanylion

Hunan darpar

Mwynhewch geginau modern, moethus, a chawodydd pwerus.

Mae'm celfi clasurol a blancedi gwlân Cymreig yn creu naws modern gydag elfen draddodiadol Gymreig.

Darganfod mwy

Mwynhewch seibiant mewn llety unigryw.

Beth sydd ar gael?

*Oherwydd natur ag oedran y safle, mae rhai o'r grisiau o amgych y safle yn serth, ond mae'r Cartws wedi ei addasu yn arbennig ar gyfer unrhyw un gyda thrafferthion symud neu anabledd.