Home » Priodasau a Dathliadau

Priodasau a Dathliadau

 

Muriau canoloesol crand o'ch amgylch, adeiladau â chanrifoedd o hanes a gerddi gwyrdd; y llwyfan hudolus i greu atgofion bythgofiadwy o'ch priodas yng Nghastell Aberteifi.

Mae amrywiaeth o leoedd i ddewis ohonynt i greu eich diwrnod perffaith gan gynnwys ystafelloedd moethus ein Plasdy Sioraidd a'r pafiliwn eang a chrand.

Taith Rithiol 360

O fore gwyn tan oriau hwyr y nos, cewch fwynhau eich diwrnod gan ddefnyddio holl adnoddau'r Castell.

Beth bynnag yw eich delfryd o briodas perffaith, cewch fwynhau pob eiliad yng nghwmni eich gwesteion, gyda digonedd o lety gwych ar y safle.

'Agwedd a wnaeth i'n penwythnos o ddathlu deimlo'n arbennig oedd cael y lle yn gyfan gwbwl i'n gwesteion. Mae hyblygrwydd y pecynnau a dewis o leoedd amrywiol yn golygu bod rhywbeth i weddu pawb...Fe wnaeth brwdfrydedd y tim cwblhau'r diwrnod i ni - roedd pawb wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn cael amser gret ac fe wnaeth ein gwesteion rhannu sylwadau ar y gwasanaeth ffantastig a ddarparwyd!'

Lluniau: Priodas Pete a Sian, 2019
©Owen Mathias Photography

Arlwyaeth rhyfeddol

Bydd ein cogyddion talentog o'n bwyty safon-uchel, 1176, yn gweithio gyda chi i greu bwydlen flasus. Os mai bwyd a la carte neu fwyd stryd yw eich dewis, gallwn sicrhau bydd eich pryd o'r safon uchaf. Cynnyrch lleol, tymhorol; gwasanaeth ac arlwyo perffaith; mae pob elfen yn cael eu hystyried yn ofalus i greu bwydlen at eich bodd. 

O'r cam cyntaf, bydd ein Trefnydd Priodasau wrth eich ochr i wrando a rhannu'ch gobeithion gydag aelodau eraill o'r staff a'r Uwch-Gogydd i greu eich dathliad perffaith.

Bydd ein tȋm profiadol yna i gynorthwyo trwy gydol y cyfnod trefnu, yn ogystal ag ar ddiwrnod y briodas, i sicrhau eich bod yn gallu mwynhau ac ymlacio yn ystod y paratoadau a'r diwrnod mawr!

'Fe wnaeth Castell Aberteifi sefyll mas i ni fel safle priodas am sawl rheswm. Mae'r safle ei hun yn hollol syfrdanol gyda'i lawntydd prydferth a chymaint o gefndir hanesyddol. Er bod y Castell yng nghanol tref Aberteifi, roedd y safle'n teimlo'n breifat a neilltuedig. Roeddwn ni'n dwli ar y ffaith bod gyda ni'r lle cyfan i'n hunain wedi i glwydi'r Castell cau am y dydd. Mantais ychwanegol oedd llety syfrdanol y Castell. 


Lluniau: Priodas Jonathan ac Elin, 2019
©Sarah Mumford Photography

Credwn y dylai priodas adlewyrchu breuddwydion a phersonoliaethau penodol y pâr sy'n priodi, ac felly, mae pob priodas yng Nghastell Aberteifi'n unigryw.

Os ydych chi'n edrych am rhywle arbennig i gynnal eich priodas, rydyn ni'n awyddus i'ch helpu.

Trefnwch ymweliad nawr neu danfonwch ebost i [email protected] i gael sgwrs pellach.

Lluniau: [Sarah Mumford Photography; Holden's Catering; Castell Aberteifi]

 

Trefnwch ymweliad â Chastell Aberteifi

Dewch i gyfarfod â'r staff, i drafod eich syniadau a'ch dyheadau am y 'Diwrnod Mawr'  tra'n crwydro'r safle,  y gerddi a'r ystafelloedd.

Ffoniwch 01239 615 131 neu dewiswch amser cyfleus yma.

[bookly-form category_id="-1" service_id="1" staff_member_id="1" hide="categories,services,staff_members,week_days"]