Home » Cynhadledd » Priodasau yn y Castell

Priodasau yn y Castell

Enillydd Rhaglen Channel 4 "Restoration of the Year" a man geni'r Eisteddfod Genedlaethol, mae Castell Aberteifi yn un o'r safleoedd Priodas fwyaf gwreiddiol gallwch ddychmygu. Yn cynnwys lawnt brydferth, plasty a gwaith pensaer anhygoel, mae 'na fyd lledrithiol o fewn myriau 900 mlwydd oed y Castell.

Dewiswch o blith nifer o leoliadau unigryw o fewn y Castell. Gallwch briodi yn ystafell y twr o fewn y plasty, neu yn edrych dros yr afon Teifi yn 1176 cyn camu allan at y balconi i gyfarch eich gwesteion. Mwynhewch wledd priodas o fewn ein pafiliwn cyn dawnsio a dathlu'r noson gyda ffrindiau a theulu. Gwnewch benwythnos o'r achlysur drwy wneud defnydd o'n llety 5* ni. Mwynhewch frecwast drannoeth i hel atgofion o'r diwrnod mawr efo ffrindiau a theulu.

Does ddim dwy briodas debyg yng Nghastell Aberteifi. Cysylltwch â ni heddiw i alluogi ni i helpu dylunio eich diwrnod perffaith chi.