Home » Llun o’r 1830au yn dychwelyd i Dŷ Castle Green

Llun o’r 1830au yn dychwelyd i Dŷ Castle Green

Mae llun o David Davies – perchennog Tŷ Castle Green yn yr 1830au – wedi dychwelyd adref.

Crewyd y llun gan Hugh Hughes o gwmpas 1832-36 ac fe’i arddangoswyd yn y tŷ tan i’r teulu werthu’r eiddo yn 1840.

Bu’r llun yn y teulu wedi hynny cyn iddo gael ei ganfod mewn simdde tŷ yn Aberystwyth yn yr 1980au.

Fe’i adferwyd gyda chymorth grant ac mae’r llun ar fenthyg o Amgueddfa Ceredigion tan yr hydref.