Home » Hanes » Cadwraeth

Cadwraeth

Yn ogystal â diogelu 900 mlynedd  o hanes, mae'r gwaith o adfer Castell Aberteifi wedi arwain archaeolegwyr at rai pethau cyffrous – 9,500 o bethau mewn gwirionedd!

Yn eu plith, datgelodd cloddfa archaeolegol ran newydd o'r castell gwreiddiol, yn dyddio'n ôl i'r 1170au. 

Darganfuwyd hefyd ystafell danddaearol, darn o benglog dolffin, pen saeth canoloesol a chwpan Sefydliad y Llynges, y Fyddin a'r Awyrlu (NAAFI) o'r Rhyfel Byd Cyntaf; gyda phob eitem yn datgelu mwy o straeon am Aberteifi, y Castell, a'r bobl oedd yn arfer byw yma.

Artefacts found and displayed at Cardigan Castle

Beth sydd i'w weld

Heddiw, gall ymwelwyr archwilio sawl eitem nas gwelwyd o'r blaen, yn cynnwys crochenwaith canoloesol a chanfyddiadau archaeolegol eraill o'r Castell, offer adeiladwyr cychod ac eitemau o hanes masnachol a chymdeithasol Aberteifi.

A gwnewch yn siŵr eich bod yn cael tynnu eich llun o flaen ein bwa walbon a adferwyd mewn modd prydferth – nodwedd hanfodol ar gyfer unrhyw ardd ddechrau'r 19eg ganrif.

Beth am ddarganfod ein harddangosfeydd yn "Castle Green House"

 

Some Artefacts inside a display case, at Cardigan Castle.

Trigolion gyda'r nos

Mae'r Castell wedi bod yn gartref i lawer dros y blynyddoedd, o dywysogion i blismyn, ond dim ond yn y nos y bydd ein trigolion diweddaraf yn mentro allan.

I lawr yn islawr ein Tŵr Gogleddol canoloesol mae clwydydd ystlumod gwarchodedig dynodedig, sy'n gartref i'r Ystlum Trwyn Pedol prin.  Gellir gweld rhywogaethau eraill yn hedfan fry uwchben y waliau, yn bennaf yr ystlum lleiaf ("pipistrelle").