Home » Ymweliad » Arddangosfeydd y Castell

Arddangosfeydd y Castell

Darganfod Aberteifi, ei Chastell a’r bobl sydd wedi byw yma, gydag arddangosfeydd parhaol a thros dro.

Mae ein hystod o arddangosfeydd amlgyfrwng yn dangos ochr arall i Aberteifi a’i chastell i chi.

Arddangosfeydd presennol

Winter Opening Hours Hanes Castell Aberteifi - Wedi ei lleoli yn Nhwr canoloesol y Gogledd, mae ein harddangosfa clywedol-lleisiol yn adrodd y stori hudol am Gastell Aberteifi o’i man cychwyn hyd at heddiw, yn cynnwys adroddiad gan …
Inside an exhibition at castle castle showing artifacts and more. Arddangosfa’r Eisteddfod - Dyma'r arddangosfa barhaol gyntaf yn y byd i gyd ar stori'r Eisteddfod ac mae'n dathlu'r ffaith mai dyma oedd man geni'r Eisteddfod! Mae'r arddangosfa'n adrodd stori'r Eisteddfod Genedlaethol, yr Eisteddfod Ryngwladol a'r Eisteddfod leol drwy eiriau, delweddau, barddoniaeth a cherddoriaeth. 
Inside an exhibition at Cardigan castle, display cases and chairs hanging on walls. Arddangosfa Barbara Wood - Beth am ddarganfod stori anhygoel perchennog preifat olaf Castell Aberteifi a'i brwydr i aros yn y Castell oedd mor hoff iddi. Yn ogystal ag arddangosfa sain a gweledol, bydd rhai o'r eitemau a adawyd ar ôl gan Miss Wood cyn i'r eiddo gael ei adfer, i'w gweld hefyd.
The History Of Cardigan Castle. Stori Aberteifi - Dyma'r arddangosfa gyntaf o'r arddangosfeydd parhaol i gael ei lleoli yn y Parlwr gynt. Mae Stori Aberteifi yn rhannu hanes lliwgar, ac weithiau annisgwyl, y dref.

Chwiliwch am fanylion gweithgareddau yn y Castell

Find out more