Home » Haf hynod o wych a chyfarwyddwr newydd i’r castell

Haf hynod o wych a chyfarwyddwr newydd i’r castell

Mae Castell Aberteifi wedi cael haf hynod o wych gyda ffigyrau ymwelwyr ar eu gorau erioed.

Fe wnaeth dros 7,500 o bobl ymweld â’r castell yn ystod cyfnod o chwe wythnos dros wyliau’r haf - fyny 2,000 ar rifau'r llynedd.

Ategwch ddigwyddiadau llwyddiannus a gyd-gynhyrchwyd gyda Theatr Mwldan -yn amrywio o ŵyl gomedi pedwar diwrnod a’r anhygoel Dreadzone, beirdd gitâr Affricanaidd Tinariwen, Catrin Aur hefyd Claire Jones a’r Ensemble Telyn Ieuenctid Americanaidd - a gwelwyd dros 10,000 o bobl yn gwneud defnydd o’r castell yr haf yma.

Ar ben hynny, yn dilyn ennill Adferiad y Flwyddyn, mae’r llety pum seren wedi bod yn llawn gyda’r dyddiadur yn llenwi’n barod ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Nawr mae’r castell yn cyhoeddi apwyntiad cyfarwyddwr newydd - Jac Owen Davies o Gastellnewydd Emlyn sydd wedi ei gyflogi i arwain y castell i uchelderau pennaf.
Fe wnaeth Jac, sydd â chefndir mewn gwasanaeth sifil a rheolaeth gwesty, ymuno â’r castell o’i swydd fel cyfarwyddwr a rheolwr cyffredinol gyda Thîm Proffesiynol Cynghrair y Rygbi Skolars Llundain. Cyn hynny, ef oedd Prif Swyddog Gweithredol Canolfan Cymry Llundain.
Yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, fe fydd yn dychwelyd i fyw yn yr ardal gyda’i wraig a’i ddau blentyn.
Caiff y rôl ei ariannu gan grant Treftadaeth Wydn HLF a phwrpas rôl Jac yw diogelu dyfodol cynaladwyedd y castell.
Meddai Jac: "Rwyf wrth fy modd i ymuno â Chastell Aberteifi ar yr adeg gyffrous yma yn ei hanes. Mae’r staff ac ymddiriedolwyr wedi datblygu cynnyrch rhagorol sy’n ased go iawn nid yn unig i Aberteifi ond i orllewin Cymry gyfan, edrychaf ymlaen at gynorthwyo mynd â’r castell i’r pegwn nesaf ac i sicrhau bod cymaint o bobl ag sy’n bosib yn elwa o’r safle hynod yma."
Llun: Cyfarwyddwr y castell Jac Owen Davies