Home » Gwyl Fawr Aberteifi 2016

Gwyl Fawr Aberteifi 2016

Seremoni agoriadol liwgar

Lansiwyd wythnos lawn gweithgaredd diwylliannol yr Wyl Fawr dros y penwythnos gyda seremoni agoriadol liwgar yng Nghastell Aberteifi.

Gorymdeithiodd gosgordd y seremoni drwy’r Stryd Fawr o Neuadd y Dre i’r Castell ble estynnwyd gwahoddiad i bobl y dref a’r cyffiniau a thu hwnt i fynychu’r Wyl i sŵn y Corn Gwlad yn cael ei ganu i’r pedwar ban gan Daniel a Jack Ramsbottom. Erfyniwyd am heddwch dros y gweithgareddau wrth ddychwelyd y cleddyf i’w wain cyn i blant Ysgol Gynradd Gymunedol Aberteifi berfformio‘r Ddawns Flodau.

Daeth y seremoni a oedd yng ngofal Non Lewis a Rhidian Evans i’w therfyn gyda phlant Criw CICA yn rhoi detholiad o’r sioe gerdd a fyddant yn ei pherfformio yn yr Ysgol Uwchradd nos Fawrth 28ain a Nos Iau 30ain o Fehefin. Mae gweddill yn rhaglen yn cynnwys Talwrn y Beirdd yn y Castell Nos Fercher 30ain o Fehefin ac yna’r Eisteddfod yn y Ganolfan Hamdden nos Wener a dydd Sadwrn gyda‘r Oedfa bore Sul a chyngerdd cloi’r Wyl ar ddydd Sul y 3ydd o Orffennaf. Manylion pellach ar gael ar wefan yr Wyl Fawr www.gwylfawraberteifi.com .

Children at Cardigan Castle, in the gardens.