Home » Gwirfoddoli

Gwirfoddoli

Yma yng Nghastell Aberteifi rydym yn dibynnu ar ymroddiad a brwdfrydedd ein gwirfoddolwyr sy'n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o redeg y Castell o ddydd i ddydd.

Mae sawl rheswm pam mae pobl yn dewis gwirfoddoli yma.  I rai, mae'n gyfle i wneud gwahaniaeth i'r gymuned leol.  I eraill, mae'n gyfle i ddatblygu sgiliau newydd neu feithrin profiad a gwybodaeth bresennol.  Waeth beth sy'n eu cymell, mae'r ffaith bod gwirfoddoli yn heriol ac yn foddhaus yn deimlad a rannir gan bawb.

Oes rôl gwirfoddol sy'n addas i chi