Home » Dadorchuddio Cleddyf Heddwch yng Nghastell Aberteifi

Dadorchuddio Cleddyf Heddwch yng Nghastell Aberteifi

Daeth tri llais ynghyd i greu darn o waith celf unigryw yng Nghastell Aberteifi.

Bu i’r cerflunydd o Gaerwedros, Ben Dearnley greu cerflun llech drawiadol 4 troedfedd o daldra gyda llinellau o farddoniaeth wedi eu comisiynu a’u creu’n arbennig gan y bardd cadeiriol Ceri Wyn Jones a chyn Bardd Cenedlaethol Cymru Gillian Clarke.

Ariannwyd y Cleddyf Heddwch, gan Sefydliad Teulu Ashley, ac fe’i hysbrydolwyd gan y cymal ‘the pen is mightier than the sword’.
Meddai Ben, wnaeth gael y syniad am y cerflun yn ystod proses adfer y castell: “Clywir tri llais yn y cerflun yma, a’r cyfan ohonom wedi ein hysbrydoli gan Gastell Aberteifi, y lleoliad arbennig yma a’r safle arbennig yma.”
Dywedodd Cadeirydd Ymddiriedolaeth Cadwgan Non Davies bod y cerflun yn ychwanegiad 21ain ganrif i naw can mlynedd o hanes y castell.