Home » CCB Cadwgan

CCB Cadwgan

YMDDIRIEDOLAETH CADWRAETH ADEILADAU CADWGAN
CADWGAN BUILDING PRESERVATION TRUST
(yr "Ymddiriedolaeth")
(Rhif Cwmni: 3955918) (Rhif Elusen: 1080667)
CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL

Hysbysir trwy hyn y cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol YCA Cadwgan BPT yn Ystafell y Tŵr, Castell Aberteifi, Aberteifi SA43 1JA ddydd Mercher 25 Hydref 2017 am 6yh. Bydd busnes y cyfarfod fel a ganlyn:

Croeso gan y Cadeirydd ac ymddiheuriadau absenoldeb.

PENDERFYNIADAU CYFFREDINOL

1. I gymeradwyo cofnodion y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhaliwyd 8 Rhagfyr 2016.
2. I adrodd ar weithgareddau’r Ymddiriedolaeth yn ystod y flwyddyn ac i gymeradwyo Adroddiad yr Ymddiriedolwyr a’r Cyfrifon am y flwyddyn hyd at Mawrth 2017 fel a osodir ger bron.
3. I ethol neu ail-ethol Ymddiriedolwyr. Yr Ymddiriedolwr sy'n ymddeol trwy gylchdro yw Non Davies sy'n cynnig ei hun i gael ei hail-ethol. Mae Bryce Barrett wedi ei ethol ers y Cyfarfod Blynyddol diwethaf ac yn cynnig ei hun i’w ail-ethol
(3.1) I ail-ethol Non Davies fel Ymddiriedolwr.
(3.2) I ail-ethol Bryce Barrett fel Ymddiriedolwr.
4. I gymeradwyo ail apwyntio Ashmole & Co fel archwilwyr.
5. Unrhyw fusnes arall ar ddisgresiwn y Cadeirydd.
Trwy orchymyn yr Ymddiriedolwyr
J R Timms
Ysgrifennydd
27 Medi 2017
Swyddfa Gofrestredig: Castell Aberteifi, Aberteifi SA43 1JA

Nodiadau
A. O ddydd Iau 19 Hydref 2017 bydd Adroddiad yr Ymddiriedolwyr a Chyfrifon YCA Cadwgan BPT ar gael i’w harchwilio ar Wefan y Cwmni ac yng Nghastell Aberteifi, Aberteifi SA43 1JA yn ystod oriau agor arferol.
B. Mae gan aelodau’r Ymddiriedolaeth ar ddyddiad Rhybudd cyntaf y cyfarfod (27 Medi 2017) hawl i fynychu a phleidleisio yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol neu hawl i apwyntio person arall fel dirprwy i ymgymryd ag unrhyw un neu a’r oll o’u hawliau i fynychu ac i siarad ac i bleidleisio yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Nid oes rhaid i’r dirprwy fod yn aelod o’r Ymddiriedolaeth. Mae ffurflen ddirprwyo yn atodol ac ar gael hefyd o swyddfa Castell Aberteifi. Ni fydd yr apwyntiad yn rhwystro Aelod ar ôl hynny rhag mynychu a phleidleisio ei hun yn y cyfarfod. Dyddiad cau ar gyfer dychwelyd y ffurflen ddirprwyo yw canol dydd ddydd Mercher 24 Hydref 2017.
C Gellir enwebu unrhyw aelod o'r Ymddiriedolaeth ar ddyddiad y rhybudd hwn fel ymgeisydd i'w ethol fel Ymddiriedolwr. Mae ffurflenni enwebu ar gael o Swyddfa Castell Aberteifi yn ystod oriau agor. Rhaid i aelodau eraill yr Ymddiriedolaeth ar ddyddiad y rhybudd hwn gynnig ac eilio yr enwebiad a rhaid i'r sawl a enwebir gadarnhau'r enwebiad. Dylai pob unigolyn a enwebir fod yn ymwybodol o ddyletswyddau a chyfrifoldebau Ymddiriedolwyr Elusen (mae gwybodaeth bellach ar gael o Swyddfa Castell Aberteifi). Ni thelir unrhyw gydnabyddiaeth i Ymddiriedolwyr YCA Cadwgan BPT. Er mwyn sicrhau bod y cyllid sydd ar gael yn cael ei ddefnyddio i hybu amcanion yr Ymddiriedolaeth nid yw’n arferol i dalu treuliau. Rhaid dychwelyd ffurflenni enwebu i swyddfa Castell Aberteifi erbyn canol dydd ddydd Llun 9fed Hydref 2017.