Wedi ei lleoli yn Nhwr canoloesol y Gogledd, mae ein harddangosfa clywedol-lleisiol yn adrodd y stori hudol am Gastell Aberteifi o’i man cychwyn hyd at heddiw, yn cynnwys adroddiad gan yr actor arobryn o Gymru, Matthew Rhys.

Dyma'r arddangosfa barhaol gyntaf yn y byd i gyd ar stori'r Eisteddfod ac mae'n dathlu'r ffaith mai dyma oedd man geni'r Eisteddfod! Mae'r arddangosfa'n adrodd stori'r Eisteddfod Genedlaethol, yr Eisteddfod Ryngwladol a'r Eisteddfod leol drwy eiriau, delweddau, barddoniaeth a cherddoriaeth.
Beth am ddarganfod stori anhygoel perchennog preifat olaf Castell Aberteifi a'i brwydr i aros yn y Castell oedd mor hoff iddi. Yn ogystal ag arddangosfa sain a gweledol, bydd rhai o'r eitemau a adawyd ar ôl gan Miss Wood cyn i'r eiddo gael ei adfer, i'w gweld hefyd.
Dyma'r arddangosfa gyntaf o'r arddangosfeydd parhaol i gael ei lleoli yn y Parlwr gynt. Mae Stori Aberteifi yn rhannu hanes lliwgar, ac weithiau annisgwyl, y dref.