Home » Blwyddyn newydd, Gwirfoddolwr newydd!

Blwyddyn newydd, Gwirfoddolwr newydd!

Beth am wneud adduned blwyddyn newydd i ymuno gyda thîm gweithgar gwirfoddolwyr Castell Aberteifi?

Os oes gennych awr neu ddwy rhydd yr wythnos, beth am ymuno a gweithgareddau’r castell? Mae angen gwirfoddolwyr fel tywyswyr a stiwardiaid, i gynorthwyo yn yr ardd ac yn y siop. Mae angen pobl hefyd i gynorthwyo gyda’r archifau a’r eitemau hanesyddol a gasglwyd dros y blynyddoedd. Fel gwirfoddolwr byddwn yn cynnig hyfforddiant i chi ac fe gewch ymuno gyda thîm brwdfrydig a hwyliog. Os oes gennych ddiddordeb galwch heibio neu e-bostiwch ni [email protected]. Bydd croeso twym galon yn eich disgwyl.