Home » Gweinyddwr y Castell

Gweinyddwr y Castell

Disgrifiad Swydd

Teitl y swydd: Gweinyddwr y Castell
Cyflog: £22,000

Nod y swydd: I gynorthwyo YCA Cadwgan trwy gynnig cefnogaeth rheoli swyddfa i’r Ymddiriedolaeth a Chastell Aberteifi.

Lleoliad y swydd: Castell Aberteifi, Green Street, Aberteifi, SA43 1JA

Cytundeb:
37 awr yr wythnos, gyda gwaith ar y penwythnos a gyda’r nos yn gylchdroadol
Bydd asesiad adolygu perfformiad trwy weithdrefn werthuso.
Hawl i wyliau: 29 diwrnod y flwyddyn i gynnwys gwyliau banc statudol.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau:
• Cynnig cefnogaeth i’r Ymddiriedolwyr.
• Adolygu a gweithredu gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch .
• Prosesu cyllidol.
• Dyletswyddau gweinyddol i gefnogi gwaith pob dydd yr Ymddiriedolaeth a’r castell.
• Cysylltu gyda’r cyhoedd ag ymateb i ymholiadau.
• Gweithio gyda grwpiau cymunedol er mwyn hybu Castell Aberteifi.
• I gyflawni unrhyw ddyletswyddau perthnasol eraill sy’n rhesymol er mwyn sicrhau gweithrediad effeithiol yr Ymddiriedolaeth a’r Castell.

Atebolrwydd: I weithio fel unigolyn ac fel aelod o dim i drefnu a blaenoriaethu gwaith a chyfathrebu ar bob lefel o fewn y sefydliad gan ddangos sgiliau rhyngbersonol da.

Dull asesu: Ffurflen gais a chyfweliad

Manyleb Person :
• Profiad o weithio ar lefel uchel mewn swyddfa.
• Profiad goruchwylio.
• Sgiliau ysgrifenedig a llafar da.
• Ymwybyddiaeth o weithdrefnau a pholisïau iechyd a diogelwch .
• Gallu i ddefnyddio Microsoft Office gan gynnwys dylunio dogfennau.
• Profiad o ddefnyddio system electronig ar gyfer archebion a thaliadau.
• Gallu adeiladu perthynas waith effeithiol gydag unigolion o fewn a thu allan i’r Ymddiriedolaeth,.
• Ymrwymiad i sicrhau gweithredu polisïau, nodau ac amcanion yr Ymddiriedolaeth .
• Ymrwymiad cryf i gynnig gwasanaeth i’r cyhoedd a bodloni cwsmeriaid.
• Gallu i reoli a blaenoriaethu eich gwaith eich hun.
• Gallu i gwblhau gwaith ar amser a heb oruchwyliaeth cyson
• Hyblyg i weithio fel unigolyn neu fel aelod o dim yn ôl yr angen.
• Gallu cyfrannu at wella a chynnal effeithlonrwydd
• Ymrwymiad i ddatblygu safonau ansawdd

Gofynion hanfodol:
• Sgiliau ysgrifenedig a llafar da.
• Yn medru cyfathrebu yn effeithiol ac yn berchen ar natur ddymunol.
• Gallu cyfathrebu yn effeithiol yn Gymraeg ac yn Saesneg.
• Sgiliau TG da.
• Tystiolaeth o’r hawl i weithio yn y DU.

Gofynion Dymunol:
• Profiad cyllidol.
• Cymhwyster IOSH Rheoli yn Ddiogel.
• Diddordeb mewn cadwraeth a threftadaeth.
• Profiad o weithio gyda chorff elusennol.
• Gwybodaeth am y diwydiant Hamdden a Thwristiaeth

Proses Apwyntio:
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: Canol dydd Dydd Gwener 17 Mehefin, 2016.
Am gopi o’r ffurflen gais ffoniwch 01239 615131 neu e-bostiwch: [email protected]
Ffurflenni cais i’w dychwelyd at: Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan, Castell Aberteifi, Green Street, Aberteifi, SA43 1JA neu trwy e-bost at [email protected]

Bydd asesu’r ffurflen gais, CV a geirdaon yn rhan o’r broses recriwtio. Cyfweliadau i’w cynnal yng Nghastell Aberteifi ddydd Iau 14eg Gorffennaf, 2016.
Y swydd i ddechrau cyn gynted a phosib.

Cardigan Castle Square Logo