Home » Camwch yn ôl i’r gorffennol i brysurdeb y canol oesoedd

Camwch yn ôl i’r gorffennol i brysurdeb y canol oesoedd

Dydd Canol Oesoedd

Camwch yn ôl i’r gorffennol i brysurdeb y canol oesoedd yng Nghastell Aberteifi ddydd Sul Mehefin 19.

Ymhlith yr atyniadau bydd sioe bypedau yr Arglwydd Rhys dan ofal Theatr Byd Bychan, sioe marchogion canoloesol, cerddoriaeth canoloesol, sesiwn stori, gwisg ffansi, gemau i blant, arddangosfeydd a stondinau crefft. Dewch i ddysgu sut i adeiladu cwrwgl neu wylio arddangosfa gwaith pren a gwaith gwiail. Ymunwch yn yr hwyl a lluchio sbwng at y trueiniaid mewn cyffion neu hela’r llygod mawr! Bydd cyfle hefyd i ennill gwobrau trwy gymryd rhan mewn cystadleuaeth gwisg ffansi neu brynu tocyn raffl. I gloriannu’r cyfan bydd mynediad am ddim i’r Castell rhwng 11yb a 4yp.

Mae rhai lleoedd ar ôl ar gyfer stondinau - cysylltwch a ni am fwy o wybodaeth trwy e-bost: [email protected] neu ffoniwch 01239 615131.

Lord Rhys Puppet Show at Cardigan Castle.