Newyddion 1

Mae’r dyfodol yn edrych yn galonogol i Gastell Aberteifi gyda’r opsiwn mwyaf ffafriol yn ei le, sef Gerddi cyhoeddus, Canolfan dysgu Cymraeg, canolfan ddiwylliant, ty bwyta a chyfleusterau i gynnal llaweroedd o achlysuron cymdeithasol.

Mae Ymddiriedolaeth Cadwgan wedi sefydlu partneriaeth gyda Chyngor Sir Ceredigion sef perchnogion y Castell. Gyda chymorth pensaer blaenllaw, profiadol yn y maes hwn rydym wedi casglu llawer o wybodaeth gan y cyhoedd ar sut i ddatblygu cais Loteri (Heritage Lottery Fund) o £4.5 miliwn. Mae’r Cyngor Sir wedi ein cefnogi yn swyddogol am gymorth ariannol oddiwrth A.H.F, sef Architectural Heritage Fund, i brynu ty y Castell. Bydd sicrhau perchnogaeth ty’r Castell yn cael ei wneud drwy’r Ymddiriedolaeth newydd a gafodd ei ail-sefydlu i’r pwrpas yma, sef Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Aberteifi.

Dyma grynodeb o’r digwyddiadau diweddaraf:

Rhagfyr 2007: Cyngor Sir Ceredigion yn ymuno a^ Chadwgan mewn partneriaeth ar o^l misoedd lawer o waith caled. Bellach bydd angen i rheolwr sicrhau bod manylion y cais yn gywir er mwyn medru symud y prosiect ymlaen at lwyddiant terfynol.

Ionawr 2008: Cadwgan i ddweud wrth y byd a’i bobl, gan gynnwys trigolion lleol, am bwysigrwydd y cais yma a dyfodol y castell.

Mae llythyrau wedi eu dosbarthu i’r cynghorau lleol yn gofyn am eu cefnogaeth, yn ogystal a syniadau ar sut i godi arian yn y dyfodol. Mae’n bwysig i gydnerthu’r berthynas rhwng gwirfoddolwyr, ffrindiau’r castell a ni, Cadwgan, eleni yn 2008. Bydd Cadwgan yn ehangu i gynnwys gwybodaeth ar y We, gan ledu gwybodaeth am yr apel yn fyd-eang. Gobeithio gall hyn sicrhau fod eleni yn Flwyddyn y Castell yn Aberteifi.

Donate with Just Giving
Donate securely online
using JustGiving