Cardigan Castle at the National Eisteddfod
Cardigan Castle took centre stage at the National Eisteddfod last week with a special reception hosted by local building preservation trust Cadwgan.
The event was to celebrate the submission of its £4.8m Heritage Lottery bid – a process which has taken over two years.
Cadwgan is now pulling out all the stops in its efforts to promote Cardigan Castle.
Cadwgan chair Jann Tucker and fellow trustee Dick Thomas spent a day on the Maes in Cardiff handing out promotional leaflets.
“It’s very fitting of course that we start this promotional campaign at the National Eisteddfod – the castle is, after all, where it all started,” said Mrs Tucker.
The reception was attended by Archdruid Dic Jones who talked about the importance of the castle in Welsh cultural history.
He also expressed a hope that the town’s Gorsedd stones would be relocated to inside the castle grounds.
Mr Jones also presented well-known Welsh jeweller Mari Thomas with an englyn which will be engraved on a one-off piece of silver jewellery which will be auctioned to raise funds later this year.

Archdruid Dic Jones presents his englyn to jeweller Mari Thomas at the Cadwgan reception in the National Eisteddfod last week
Cadwgan has to raise at least £50k as part of its matchfunding for the £9m project. Several events are planned throughout the next few months, including a flower festival at Green Street cottages next weekend.
Ceredigion AM Elin Jones also attended the reception.
She said: “This is a very ambitious project which will be of great benefit for Cardigan and the whole of West Wales once it is completed.”
A decision on the lottery bid should be known by early next year.
Castell Aberteifi yn Cyflwyno Cais Am Grant O Gronfa Dreftadaeth y Loteri
Aberteifi, Awst 6ed 2008: Ymdrechion yn cynyddu’r wythnos hon i ddiogelu Castell Aberteifi, safle’r Eisteddfod gyntaf, gyda chyhoeddiad fod CADWGAN, Ymddiriedolaeth Cadw Adeiladau lleol yn cyflwyno cais am grant o Gronfa Dreftadaeth y Loteri .
Y Castell hwn, sy’n dyddio yn ôl i’r deuddegfed ganrif, yw’r castell cerrig cyntaf a adeiladwyd gan Dywysog Cymru – Yr Arglwydd Rhys, sef un o’r tywysogion Cymreig mwyaf llwyddiannus a phwerus. I ddathlu cwblhau’r castell yn 1176, bu i’r Arglwydd Rhys greu cystadleuaeth rhwng beirdd ac un arall rhwng cerddorion a chyfansoddwyr gan roi cadair i bob un o’r enillwyr. Gyda’r gystadleuaeth yma crëwyd Eisteddfod gyntaf yr Arglwydd Rhys a sefydlwyd Castell Aberteifi fel rhan annatod o ddiwylliant Cymreig.
Dywedodd Jann Tucker, Cadeirydd CADWGAN mewn derbyniad yn yr Eisteddfod eleni yng Nghaerdydd, sef un derbyniad o lawer ar draws y flwyddyn i godi ymwybyddiaeth o ymgyrch y castell:
“Castell Aberteifi yw un o’r safleoedd hanesyddol pwysicaf yng Nghymru. Ein nod yw diogelu ac adnewyddu un o’n trysorau cenedlaethol a thrwy hynny wneud, adfywio nid yn unig tref Aberteifi fel prif atyniad i ymwelwyr ond hefyd Ceredigion a Gorllewin Cymru fel ardal i dwristiaid. Gobeithiwn y bydd hyn yn ei dro yn creu swyddi sydd eu gwir angen, buddsoddiad a newid i fusnesau lleol.
Mae’r prosiect o bwysigrwydd cenedlaethol am y bydd yn rhoi ailfywyd i un o nodweddion diwylliannol Cymru - man geni ein Heisteddfod ac effaith sylweddol hyn ar ein traddodiadau a threftadaeth farddonol a cherddorol. Bydd yn brawf i’r edafedd aur diwylliannol sy’n ymestyn dros ganrifoedd o’r gystadleuaeth gyntaf i’r Eisteddfod ardderchog rydym yn ei mwynhau yma heddiw a bob blwyddyn ar draws Cymru. Dyma etifeddiaeth fel cenedl y mae arnom reidrwydd i’w diogelu”.
Y mae Castell Aberteifi yn Heneb Gofrestredig o fewn Ardal Gadwraeth Aberteifi ac sy’n cynnwys chwe adeilad rhestredig a waliau ffin.
Bydd y prosiect yma sydd werth nifer o filiynau yn cynnwys cynlluniau i adnewyddu adeiladau’r Castell a’r waliau yn ogystal â mynd i’r afael ag ailddatblygu tir y castell a gaiff ei drosi i ganolfan ymwelwyr a threftadaeth ddiwylliannol fodern fydd yn cynnwys cyfleusterau Dysgu Cymraeg i Oedolion, ac ardal gynadledda, perfformio a manwerthu.
Caiff yr hen ystafell wydr ei hail-fowldio i gaffi gwydr a bydd yr adeiladau mas yn cynnwys cymysgedd o lety preswyl, masnachol a llety gwyliau.
Bwriedir hefyd adnewyddu gerddi Brenhinol y Castell sy’n cynnwys gerddi muriog a gerddi ar gyfer y gegin a bydd y cyfan yn ffurfio elfen ganolog ar gyfer y Safle gan greu man agored i’r cyhoedd fedru ei fwynhau, boed yn breswylwyr lleol neu’n ymwelwyr.
Crëwyd Ymddiriedolaeth Cadw Adeiladau CADWGAN yn 2000 gan bedwar person lleol a oedd yn teimlo’n angerddol y dylai Castell Aberteifi fod mewn perchnogaeth gyhoeddus a’i gadw, a’i adnewyddu a sicrhau ei fod ar gael i bawb. Bu i hyn ddilyn pryder mawr yn lleol dros nifer o flynyddoedd wrth i’r Castell ddirywio dan berchnogaeth breifat yn y 1980au a’r 1990au heb adnoddau i achub y sefyllfa.
Ers i CADWGAN gael ei greu bu iddo fwynhau lefelau uchel o gefnogaeth oddi wrth y gymuned leol ar gyfer adnewyddu ac ailddefnyddio’r Castell fel adnodd cymunedol yn ogystal â’i gynlluniau ar gyfer adfywiad diwylliannol yn yr ardal.
Yn ogystal, bu partneriaethau allweddol gydag ystod eang o asiantaethau a chyrff cyhoeddus megis Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Tref Aberteifi, Llywodraeth Cynulliad Cymru, CADW, Cronfa Treftadaeth Bensaernïol, Cymdeithas Ymddiriedolaeth Cadw Adeiladau, Awdurdod Datblygu Cymru ( sef yr hen Adran Economi a Thrafnidiaeth bellach) yn holl bwysig i’r datblygiadau hyd yma.
Sicrhawyd £1.5 miliwn o bunnoedd oddi wrth bartneriaethau amrywiol a chyrff sy’n rhoi grantiau. Y mae angen £8.6 miliwn pellach i gwblhau’r prosiect, a cheisir am £4.8 miliwn yn y cais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Y mae CADWGAN hefyd wedi dechrau ar gyfres o dderbyniadau cyhoeddus a digwyddiadau ar draws Cymru a Lloegr i godi ymwybyddiaeth o ymgyrch Castell Aberteifi.
Os bydd yr holl arian angenrheidiol mewn lle yn llwyddiannus, bydd CADWGAN yn rhagweld y bydd y Castell ar ei newydd wedd gyda’i gyfleusterau newydd yn agored i’r cyhoedd erbyn 2012.
Un o bartneriaid mwyaf cefnogol CADWGAN yw Ymddiriedolaeth Adfywio Tywysog Cymru sy’n darparu cyngor ar agweddau technegol o ddatblygu a gweithredu’r prosiect.
Bu i Ei Mawrhydi Brenhinol Tywysog Cymru a Duges Cernyw ymweld â’r safle yn 2006 i lansio’r prosiect gan gymryd diddordeb brwd yn ei ddatblygiad ers hynny.
Dywedodd Ei Fawrhydi Tywysog Cymru yn y lansiad:
“Mae gan y prosiect yma botensial enfawr. Gallwch gael adfywio cymunedol drwy eich treftadaeth - rwy’n gwybod, rwyf wedi ei weld ar waith nifer o weithiau. Edrychwn ymlaen at ddod yn ôl i Aberteifi pan fydd y Castell wedi ei gwblhau.”
DIWEDD
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
Jann Tucker – Cadeirydd – Ymddiriedolaeth Cadw Adeiladau CADWGAN
Rhif ffôn 01239 810 387
Ebost : jann@aberporth.com
Cadwgan BPT hold Fund Raising Flower Festival
Following the announcement this week that Ceredigion County Council and CADWGAN Building Preservation Trust are submitting a bid for almost £5milion to the Heritage Lottery Fund for the restoration of Cardigan Castle, CADWGAN BPT are kicking off their fund raising programme with a Flower Festival in the Castle grounds from Friday 15th to Monday 18th August.
The Festival is being organised by Pam McGrath who runs the Cardigan Flower Club. Pam has organised flower shows and fundraising events over many years. “We are hoping to raise a substantial amount for the Trust because we are entirely behind Cadwgan’s noble efforts to rescue our Castle” she said. “They need as much help as they can get, it’s a huge project”, she added.
The event will be held in the recently restored 17th Century ‘listed’ cottages adjacent to the Castle entrance. The internal space in 2 Green Street is delightful and has been carefully preserved and sensitively repaired. It will make a magnificent setting for the floral displays. The rear enclosed Courtyard together with the old stables and the old brew house in the yard will also be festooned with flowers everywhere. The flower club will also be serving cream teas at the tables which will be set up for the occasion. All that is needed is a bit of good weather for a few days, to make the event a great place to visit.
It is hoped that this event can be the first of many such festivals and that it can be built up to be an annual attraction for the townspeople and visitors alike. Plans are in hand to form partnerships with the Chamber of Commerce, Town Council, the County Council, and perhaps some of the big High Street names to make the town just burst with colour in the summer months.
If you would like to help with sponsorship or in any other way please contact:-
Pam McGrath on 07837-997604
Cadwgan Summer Events
Cadwgan trustees have put in literally hundreds of hours of work to complete the bid – and now are turning their attention to fundraising and raising the trust’s profile.
Cadwgan will be hosting a special event at the National Eisteddfod in Cardiff with an evening for invited guests at the Blas tent on August 6.
There are also plans for a flower festival and an exciting high profile fundraiser later in the autumn.
The trust is also in negotiations with castle owners Ceredigion County Council to obtain a licence to run events in the castle grounds.
Cadwgan will also be at Cardigan medieval day on July 26 which is being held in the castle grounds. Stop and have a chat when you have your cup of tea!
Left: Sian and Savana Anderson from Rhydlewis are watched over by Lord Rhys.
Center: Glen Johnson signing his book “Cardigan Uncovered“.
Right: Gwenllian, Teifion and Degwell Morris
All photos © Emyr Rhys Williams
Newyddion 1
Mae’r dyfodol yn edrych yn galonogol i Gastell Aberteifi gyda’r opsiwn mwyaf ffafriol yn ei le, sef Gerddi cyhoeddus, Canolfan dysgu Cymraeg, canolfan ddiwylliant, ty bwyta a chyfleusterau i gynnal llaweroedd o achlysuron cymdeithasol.
Mae Ymddiriedolaeth Cadwgan wedi sefydlu partneriaeth gyda Chyngor Sir Ceredigion sef perchnogion y Castell. Gyda chymorth pensaer blaenllaw, profiadol yn y maes hwn rydym wedi casglu llawer o wybodaeth gan y cyhoedd ar sut i ddatblygu cais Loteri (Heritage Lottery Fund) o £4.5 miliwn. Mae’r Cyngor Sir wedi ein cefnogi yn swyddogol am gymorth ariannol oddiwrth A.H.F, sef Architectural Heritage Fund, i brynu ty y Castell. Bydd sicrhau perchnogaeth ty’r Castell yn cael ei wneud drwy’r Ymddiriedolaeth newydd a gafodd ei ail-sefydlu i’r pwrpas yma, sef Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Aberteifi.
Dyma grynodeb o’r digwyddiadau diweddaraf:
Rhagfyr 2007: Cyngor Sir Ceredigion yn ymuno a^ Chadwgan mewn partneriaeth ar o^l misoedd lawer o waith caled. Bellach bydd angen i rheolwr sicrhau bod manylion y cais yn gywir er mwyn medru symud y prosiect ymlaen at lwyddiant terfynol.
Ionawr 2008: Cadwgan i ddweud wrth y byd a’i bobl, gan gynnwys trigolion lleol, am bwysigrwydd y cais yma a dyfodol y castell.
Mae llythyrau wedi eu dosbarthu i’r cynghorau lleol yn gofyn am eu cefnogaeth, yn ogystal a syniadau ar sut i godi arian yn y dyfodol. Mae’n bwysig i gydnerthu’r berthynas rhwng gwirfoddolwyr, ffrindiau’r castell a ni, Cadwgan, eleni yn 2008. Bydd Cadwgan yn ehangu i gynnwys gwybodaeth ar y We, gan ledu gwybodaeth am yr apel yn fyd-eang. Gobeithio gall hyn sicrhau fod eleni yn Flwyddyn y Castell yn Aberteifi.

