Home » Ymweliad » Gerddi

Gerddi

Ewch am dro yn ôl mewn amser ar hyd llwybrau troellog ein gerddi Rhaglywiaethol godidog. Gerddi llawn blodau amryliw a rhywogaethau prin i chi eu hedmygu.

Mae'r gerddi rhestredig Gradd II sy'n rhan o ddwy erw o dir sy'n edrych dros afon Teifi, yn gartref i fwy na 130 math o blanhigion.  Yn eu plith mae 15 o rywogaethau brodorol, yn cynnwys derw Twrci mawr, ffawydd coprog, llus yr eira ac amrywiadau cynnar o gelyn.  

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael tynnu eich llun o flaen ein bwa walbon a adferwyd mewn modd prydferth – nodwedd hanfodol ar gyfer unrhyw ardd ddechrau'r 19eg ganrif.  

One of the outer buildings at Cardigan Castle.

Hanes y gerddi

Gwnaed y rhan fwyaf o'r tirlunio ddechrau'r 1800au pan adeiladwyd "Castle Green House" ar y safle ar gyfer John Bowen, bargyfreithiwr lleol. Roedd hyn yn cynnwys dymchwel y wal gyswllt gyferbyn â'r Strand i ffurfio "gerddi crog".

Yn 1827, gwnaed newidiadau pellach i'r gerddi ar gyfer perchennog newydd y Castell, Uchel-Siryf Sir Aberteifi, Arthur Jones.

Estynnwyd y tŷ yn 1827 hefyd drwy ychwanegu'r rhes flaen at y strwythur presennol.  Codwyd tŷ poeth, tŷ gwydr a strwythur tyfu rhedyn yn fuan wedyn.

Dengys cynlluniau a golygfeydd o'r cyfnod hwn fod yr ystad yn sefyll mewn tirwedd o lawnt, llwyni a llwybrau cerdded o amgylch yr ymyl.  Roedd yr adeiladau allan eraill yn cynnwys stablau, cerbyty a bwthyn i'r garddwr, gyda gardd gegin furiog y tu ôl i'r prif dŷ.

Er mai John Bowen ac Arthur Jones gafodd y clod am y rhan fwyaf o'r gwaith tirlunio o amgylch "Castle Green House" yn ystod y cyfnod y buont yn berchen ar y Castell; mae'n debygol bod planhigion ychwanegol wedi cael eu hychwanegu at y gerddi fel y maent heddiw gan David Davies, Siryf Sir Aberteifi a brynodd y safle yn 1832.

Cardigan Castles outer buildings through the trees.