Home » Ymweliad

Ymweliad

Mae ymweliad â Chastell Aberteifi yn fwy na'r ymweliad arferol â chastell - mae yna oes i bob oed.

 

 arrowGwelwch yr Oriau Agor a phrisiau Tocyn

Mwynhewch ein plasty Georgaidd ysblennydd, lle gallwch ddysgu am y Castell, y bobl oedd yn arfer byw yma, a hanes geni gwŷl ddiwylliannol fwyaf Cymru, yr Eisteddfod.

Archwiliwch y waliau canoloesol ac olion y castell. Gallwch hyd yn oed dreulio noson yn ein llety moethus o’r safon uchaf.

Neu beth am fwynhau'r jyngl chwarae o'r 21ain ganrif a llu o ddigwyddiadau i'r teulu.

Llawer i’w harchwilio

Golyga’r haenau o hanes o fewn safle’r castell bod llawer o bethau i weld.

Archwiliwch y muriau canoloesol a chwiliwch am weddillion y castell; Ymwelwch â’r Plas Sioraidd hyfryd, a darganfyddwch am fywyd y bobl oedd yn byw yn y castell yn ystod ei hanes; Crwydrwch drwy Erddi rhestredig Gradd II trawiadol sydd yn llawn rhywogaethau o blanhigion prin.

Bydd ein tywyswyr taith yn rhannu hanes y castell 900-mlwydd oed yma, gan ddod â’r safle arbennig yn fyw.

“Roedd ein tywyswr  yn wych. Mae e’n amlwg yn byw ac yn anadlu’r castell. Roedd ei wybodaeth helaeth a’i lais clir wedi cyfareddu pawb.”

Image of the Gardens at Cardigan Castle.
An event, outside at Cardigan castle, with people in the audience.

Arddangosfeydd Hudol

Mae’r Castell yn gartref i ystod o arddangosfeydd parhaol a thros dro, yn ffocysu ar y Castell - a hanes yr ardal .

O stori Castell Aberteifi, i ddisgrifiad hudol bywyd Barbara Wood, perchennog preifat olaf y castell, i Arddangosfa’r Eisteddfod (mewn dathliad o Aberteifi fel man geni’r Eisteddfod) - rydych yn siŵr o ddarganfod rhywbeth  fydd yn swyno ac yn tanio'ch dychymyg.

Mwy na gwers hanes

Gyda thipyn yn mynd ymlaen yng Nghastell Aberteifi, ma mwy na digon i wneud.

Edrychwch ar ein ‘gwe-ystlum’ a chewch olwg agos ar westeion prin y castell, cewch ddarganfod ein hanes cudd, neu archwiliwch y planhigion treftadaeth prin yn ein gardd furiog Sioraidd. Gallwch hyd yn oed wneud bach o arddio eich hun.

Mae’r Castell yn gartref i ystod eang o berfformiadau, amrywiaeth o gerddoriaeth, o'r clasurol i'r bandiau diweddaraf; dramâu  a pherfformwyr dawns arbennig. Edrychwch ar ein digwyddiadau i ddod.

Gall plant ymuno gydag un o’n sesiynau crefft wythnosol, neu chwarae cymeriad  o'r blwch gwisg ffansi a bod yn forwyn, marchog neu’n fonedd Sioraidd, dilyn llwybr yr Eisteddfod drwy’r gerddi, neu chwarae ar un o’r gemau bwrdd anferth.

Knights Battling at Cardigan Castle.

Amseroedd Agor y Castell

Dydd Llun - Dydd Sadwrn, 10yb tan 4yp.
Cadair olwyn ar gael (holwch yn y dderbynfa) .

Prisiau Tocynnau

Mynediad 

Heb Rodd Cymorth Gyda Rhodd Cymorth
Oedolion £7 £7
Plant (3-16) £4 £4

Mynediad blynyddol i Gastell Aberteifi rhwng 10am a 4pm (ac eithrio digwyddiadau ychwanegol).

Mwynhau ein Teithiau

Bwciwch Dywysydd Taith bersonol  i ddysgu mwy am hanes y safle 900 mlwydd oed.

Mae'r teithiau gan dywyswr  yn cychwyn o 2pm ac yn para tuag awr. Ffoniwch 01239 615131 i drefnu amser cyfleus.

Teithiau grŵp

Ysgolion: £2.00 pob disgybl (athrawon am ddim)

Grwpiau - hyd at 10 person: £6.50 gyda Rhodd Cymorth*, £6.00 heb Rodd Cymorth*.

Mwy na 10 o bobl fel grwp: £5 y pen.

Pam na wnewch chi orffen eich taith gyda thamaid blasus i’w fwyta ym Mwyty 1176. Edrychwch ar ein bwydlen taith nos.

I archebu ffoniwch 01239 615131 neu e-bost [email protected]

  • * Rhodd cymorth yw trefn adfachu treth y llywodraeth.