Home » Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan

Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan

Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan, ei gwirfoddolwyr ffyddlon a chefnogaeth gan arianwyr sy'n gyfrifol am y ffaith bod Castell Aberteifi yma heddiw.

Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth yn 1999 gan bedwar gwirfoddolwr lleol ymrwymedig; Jann Tucker, y diweddar Gareth Davies, y diweddar Trevor Griffiths a Richard Thomas. Eu nod oedd achub dau fwthyn 300 mlwydd oed yng nghanol Aberteifi, wrth ymyl mynediad Castell hanesyddol Aberteifi.  Adferwyd y bythynnod hyn yn llwyr ac yna, aeth yr Ymddiriedolaeth ati, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion, i adfer safle'r castell dwy erw i'w hen ogoniant.

Hoffai'r Ymddiriedolaeth ddiolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, Communities Asset Transfer, Cadw, y Gronfa Loteri Fawr ac Ymddiriedolaeth Adfywio'r Tywysog, am eu cefnogaeth amhrisiadwy.

Bydd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan yn cael ei gynnal yn Castell Aberteifi am 6yh ar Dydd Iau, Medi 10, 2015. Mwy o wybodaeth yma

 

 

logos

Cysylltwch â ni

  • First name and Surname
  • Please provide your full address inc post code
    Rwy'n cytuno I fod yn aelod o YCA Cadwgan ac I gefnogi amcanion yr ymddiriedolaeth. I agree to become a member of the Cadwgan BPT and to support the aims of the trust.