Home » Teithiau tywys rhestredig o’r islawr canoloesol

Teithiau tywys rhestredig o’r islawr canoloesol

Beth sy’n gorwedd o dan Dy Castle Green?

A ydych chi erioed wedi meddwl beth sy’n gorwedd o dan Dŷ Castle Green? Wel, dyma yw eich cyfle i ddarganfod cyfrinachau canoloesol Castell Aberteifi.
Bydd teithiau tywys rhestredig o’r islawr canoloesol sy’n gorwedd o dan y tŷ Sioraidd ar Ebrill 21 ac Ebrill 28 (yn gyd-ddigwyddiadol 820 o flynyddoedd ers marwolaeth yr Arglwydd Rhys).

Yr islawr - sy’n dyddio’n ôl i 1240 - yw’r adfeilion hynaf ar eu traed a oedd unwaith yn gastell hynod. Fel arfer does dim hawl i ymwelwyr fynd yno oherwydd mae bellach yn gartref i drefedigaeth o famolion mwyaf prin Prydain, yr Ystlum Pedol Fwyaf.

Ond gyda’r ystlumod yn gadael eu clwyd gaeaf, mae’r castell wedi cael yr hawl i agor yr islawr am gyfnod cyfyngedig.

Bydd chwe thaith hanner awr o hyd o’r castell canoloesol yn dechrau hanner dydd ac yn gorffen am 2.30pm. Mae ond lle am ddeg o bobl ar bob un daith felly mae archebu lle yn hanfodol. Fel bonws ychwanegol ar ddau ddydd Sadwrn am 3pm, bydd yr hanesydd enwog y Tad James Cunnane yn rhoi araith ar orffennol canoloesol y castell.

Archebwch eich lle ar y teithiau drwy naill ai alw mewn i’r castell neu drwy ffonio 01239 615131.

Mae’r teithiau’n rhad ac am ddim i ddaliwr trwydded y castell neu’n £5 oedolion, £3 plant.

Inside the underneath of Castle Castle.