Home » Portread trawiadol o Barbara Wood

Portread trawiadol o Barbara Wood

Artist yn cyflwyno portread unigryw o Miss Wood i’r castell

Fe wnaeth yr artist lleol enwog Meirion Jones gyflwyno portread trawiadol o Barbara Wood i Gastell Aberteifi.

Cyflwynwyd y portread i Ymddiriedolaeth Cadwgan yr wythnos yma yng Ngaleri Miss Wood yn Nhy Castle Green.

Roedd Miss Wood – a oedd yn berchen y castell am 60 mlynedd –yn ffigwr dadleuol wnaeth lywyddu dros ddegawdau o esgeulustra a dirywiad. Er hynny, roedd ei chymeriad ewn, echreiddiadau a’i brwydrau gyda’r awdurdodau wedi diddori a hanwylo’r miloedd o ymwelwyr sy’n dod i’r castell.

Mae’r darlun yn darlunio Miss Wood yn ei chot law melyn nod masnach a’i sgarff goch, yn gafael yn ei chathod annwyl gyda Thy Castle Green a’r garafan y tu cefn iddi.
“Roeddwn i am ddarlunio ei herfeiddiad a’i hurddas,” dywedodd Mr Jones. “Roedd hi bron fel ffigwr Edwardaidd ac mae’n barod yn dod yn rhan o stori a chwedlau’r castell.”
Meddai cadeirydd Cadwgan Non Davies: “Rydym yn werthfawrogol iawn i Meirion am y darlun hyfryd a fydd heb os yn swyno’r ymwelwyr i’r castell.”
Yn ystod y cyflwyniad, fe wnaeth y Tad Seamus Cunnane a Glen Johnson roi peth hanesynnau diddorol o’u cyfarfodydd â Miss Wood. Mae llyfr arbennig yn cael ei roi yn y galeri ar gyfer ymwelwyr i gofnodi eu hatgofion o Miss Wood.
Llun: Yr artist Meirion Jones gyda Chadeirydd Ymddiriedolaeth Cadwgan Non Davies a’r wirfoddolwraig Meifis Griffiths wnaeth feddwl am y syniad am lun o Miss Wood i ddechrau.

People standing by an image at Cardigan Castle.