Home » Lansio arddangosfa Donald Davies

Lansio arddangosfa Donald Davies

Hanesydd adnabyddus

Lansiwyd arddangosfa yn dangos casgliad eang o ffotograffau gan yr hanesydd adnabyddus, y diweddar Donald Davies yng Nghastell Aberteifi yr wythnos yma.

Treuliodd Mr Davies flynyddoedd yn casglu deunydd ar gyfer yr archif ffotograffig o hanes y dref a chyn ei farwolaeth, fe wnaeth e adael y casgliad i Ymddiriedolaeth Cadwgan.

Mae oddeutu 70 o’r ffotograffau yma wedi eu digido gan dîm o wirofoddolwyr ac wedi eu gosod ar fyrddau wedi eu hargraffu gan yr argraffwyr lleol EL Jones.
Fe wnaeth tua 100 o ffrindiau’r teulu fynychu’r lansiad a gynhaliwyd gan Richard, mab Donald a phartner Richard, Andrew Gardener.
Croesawodd cadeirydd Ymddiriedolaeth Cadwgan Non Davies bawb a dywedodd bod yr Ymddiriedolaeth yn ddyledus i Donald am y rhodd o’r fath etifeddiaeth.

Dywedodd gwirfoddolwr y Castell Glen Johnson, a gafodd ei ysbrydoli i ymchwilio hanes lleol gan Donald, bod y castell yn gartref priodol ar gyfer yr archif.

Ac meddai cyn lyfrgellydd y sir William Howells, bod cariad Donald am hanes a’i awydd i addysgu a rhannu’r cariad yna gyda phobl yn rhywbeth i’w edmygu.

“Maent yn dweud allan o’r boblogaeth, bod 99% o bobl yn taflu pethau i ffwrdd a bod yr 1% arall yn casglu. Roedd Donald yn gasglwr,” meddai.
Yn siarad ar ran y teulu, dywedodd Mr Gardener eu bod wrth eu bodd bod yr archif bellach yn cael ei harddangos i’r cyhoedd.
Mae arddangosfa Donald Davies nawr ar gael yn yr Ystafell Sidan yn Nhŷ Castle Green. Mae mynediad yn rhac ac am ddim ar gyfer y rheini sydd â thocyn castell neu’n £5 i oedolyn, £3 plant.

Llun: Richard Davies ac Andrew Gardener yn y lansiad gyda Chadeirydd Ymddiriedolaeth Cadwgan Non Davies, gwirfoddolwr archif y castell Glen Johnson, cyn lyfrgellydd y sir William Howells a Swyddog Gwasanaethau’r castell Sue Lewis.

Donald Davies at Cardigan Castle.