Home » Hanesydd lleol

Hanesydd lleol

Glen, our tour guide at Cardigan Castle.

Hanesydd Lleol yn rhoi benthyg casgliad o luniau i’r Castell

Mae’r hanesydd lleol sydd yn dipyn o arbenigwr ar hanes Castell Aberteifi sef Glen Johnson wedi rhoi benthyg casgliad o luniau i’r castell i’w harddangos.
Mae’r deuddeg llun yn cynnwys lluniau a arferai hongian yn Nhŷ Castle Green cyn 1924 ac a roddwyd i Glen gan aelod o deulu Berrington Davies.

Hefyd gellir gweld hen fapiau o Sir Aberteifi ynghyd a thudalennau blaen papurau newydd lleol yn adrodd hanes yr ymdrech i arbed y Castell.
Mae’r lluniau i’w gweld ar lawr uchaf Tŷ Castle Green .

Meddai Glen “Mae’n deimlad arbennig gweld y lluniau yn cael eu harddangos yn enwedig y lluniau fu’n hongian yma ar droad yr 20fed ganrif.” said Glen.

Llun: Glen Johnson gyda’r lluniau sydd ar fenthyg yng Nghastell Aberteifi.