Home » Eisteddfod Lychlyd

Eisteddfod Lychlyd

Beth yw eich atgofion o Eisteddfod Aberteifi ym 1976? Yr haf hir a chynnes oedd y tro diwethaf i’r eisteddfod ddychwelyd adref i’w man geni ac oherwydd yr amodau sych gelwir hi’n ‘Eisteddfod Lychlyd.’

Mae Castell Aberteifi eisiau cofnodi atgofion y diwrnod hwnnw ar gyfer arddangosfa arbennig yn barod i’r Eisteddfod ddychwelyd i Geredigion ym 2020. Efallai roeddech chi’n gyfrifol am y pasiant? Neu’n aelod o’r gynulleidfa? Neu’n ymwelydd i’r dref?
Mae’r castell yn cynnal Diwrnod Eisteddfod ar Awst 23 ac yn ystod y diwrnod, bydd yr awdures lleol Anwen Francis ar gael i gofnodi atgofion y bobl. Bydd hefyd camera ffilm i gymryd lluniau a chofnodi cyfweliadau yn ogystal â chymryd lluniau o unrhyw arteffactau neu swfenîrs o’r wythnos honno yng Ngorffennaf. Bydd gan y Castell tîm o wirfoddolwyr a fydd yn sganio unrhyw luniau ac yn eu dychwelyd y diwrnod hwnnw.

Os hoffech gyfrannu i’r arddangosfa ond nad ydych ar gael ar Awst 23, mae croeso i chi anfon eich atgofion fesul e-bost i [email protected].
Mae’r preswylydd lleol Llinos Price eisoes wedi cyfrannu detholiad o eitemau a gasglwyd gan ei mam, y diweddar Gwennie, a oedd yn cynnwys toriadau o’r wasg.

Meddai cadeirydd Ymddiriedolaeth Cadwgan Non Davies: “Rydym wir am gael atgofion pobl ar gofnod. Roedd hi’n achlysur enfawr i Aberteifi ac un o’r amserau olaf i’r eisteddfod i gael ei chynnal o fewn tref. Mae’r eisteddfod heddiw yn ddigwyddiad llawer mwy o faint ond mae gan bobl atgofion pleserus a byw o 1976. Fel man geni’r eisteddfod, rydym yn credu ei bod ond yn iawn fod y castell yn cymryd yr arweiniad ar yr amgueddfa yma.”