Home » Disgynnydd y Teulu Davies yn dychwelyd i Castle Green

Disgynnydd y Teulu Davies yn dychwelyd i Castle Green

Fe wnaeth disgynnydd un o’r perchnogion mwyaf enwog Tŷ Castle Green ddychwelyd i Gastell Aberteifi'r wythnos hon.

Am bron i ganrif yn ystod y cyfnod Fictoraidd, teulu’r Davies oedd yn berchen ar Gastell Aberteifi, gyda Thŷ Castle Green yn lle masnachol a chymdeithasol pwysig yn y dref.
Y Patriarch David Davies oedd Uwch Siryf Sir Aberteifi ac fe wnaeth chwarae rhan allweddol yn nhyfiant Aberteifi fel porthladd y môr.

Ymwelodd ei or, or, or, or wyres, Sherry Husselbury, sydd nawr yn byw yn Surrey, â’r castell am y tro cyntaf ers ei adferiad gwerth £12m.

Gan aros ar y safle yn un o’r unedau preswyl moethus, roedd hi wrth ei bodd yn gweld y castell wedi ei adfer a’i adfywio.

“Mae hyn wir yn gamp arbennig,” meddai. “Fel teulu, rydym bob amser wedi cymryd diddordeb yn Castle Green ac wedi dilyn y broses adfer yn agos.”
Roedd hi’n hynod bles bod y castell wedi ennill Restoration of the Year ar Sianel 4 rai misoedd yn ôl.
“Roeddem wedi ein glynu wrth ein sgriniau teledu ac fe wnaethom floeddio mewn llawenydd pan gyhoeddwyd mai’r castell oedd wedi ennill,” dywedodd. “Rwy’n siŵr byddai David Davies wedi bod yn bles iawn!”