Home » Castell Aberteifi yn croesawu Clogau fel partner priodasau.

Castell Aberteifi yn croesawu Clogau fel partner priodasau.

Mae Castell Aberteifi yn hapus i gyhoeddi fod Clogau wedi ymuno a’r busnes fel partner y ffair briodas ym mis Chwefror.

Yn trafod y cyhoeddiad, dyweded Cyfarwyddwr Castell Aberteifi, Jac Davies:

“Rydym yn hynod falch o groesawi frand fel Clogau I ymuno a ni yma yng Nghastell Aberteifi. Mae gan y ddau frand egwyddorion ac ysbryd tebyg drwy gynnig gwasanaeth cyfoes gyda threftadaeth Cymraeg yn agos at eu calonnau.”

Fe wnaeth pennaeth brand rhyngwladol Clogau hefyd rhoi sylw:

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i weithio efo tîm Castell Aberteifi. Mae’r ffair briodas yn gyfle arbennig i arddangos ein gemwaith mewn sefyllfa mor hardd. Mae gan y ddau frand egwyddorion tebyg sydd yn dathlu eu Cymreictod, mae hyn yn ddechrau at bartneriaeth lewyrchus.”

Os ydych am ddod i’r ffair briodas, gallwch gofrestru yma.

Os ydych am arddangos eich busnes fel rhan o’r ffair, e-bostiwch info@cardigancastle.com