Home » Castell Aberteifi – Cyfarwyddwr

Castell Aberteifi – Cyfarwyddwr

Ydych chi’n chwilio am gyfle newydd, cyffrous mewn rhan arbennig o Gymru?

Os felly mae’n bosib mae hon yw’r swydd i chi! Yr ydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, egnïol a mentergar i arwain Atyniad i Ymwelwyr a Safle Treftadol. Mae Castell Aberteifi yn safle ac iddo arwyddocâd diwylliannol pwysig yn Hanes Cymru. Fel safle yr Eisteddfod gyntaf, cwblhawyd y gwaith o adeiladu Castell Aberteifi – y castell carreg cyntaf i’w adeiladu gan Gymro – gan yr Arglwydd Rhys yn 1176. Mae’r Castell, sydd wedi ei leoli mewn man godidog ar lan yr afon Teifi yng ngorllewin Cymru, wedi bod yn destun prosiect adnewyddu gwerth £12.5miliwn ac fe’i agorwyd i’r cyhoedd ym mis Ebrill 2015.

Mae’r safle yn cynnwys adeiladau ac arddangosfeydd o arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol, llety Hunan-arlwyo, llety Gwely a Brecwast a chyfleusterau ar gyfer priodasau, cyfarfodydd a digwyddiadau ynghyd a Bwyty a siop i ymwelwyr.
Os ydych yn meddu ar y sgiliau creadigol, arloesol a dychmygus sydd eu hangen i arwain y Castell ar gymal nesaf y siwrne ac yn medru dangos tystiolaeth o allu rheoli busnes yn llwyddiannus byddem wrth ein bodd petaech yn cysylltu a ni.
Cyflog: Cynigir pecyn cystadleuol ar gyfer swydd llawn amser.

I wneud cais anfonwch eich CV ynghyd a manylion llawn profiad blaenorol erbyn y dyddiad cau, 25 Tachwedd 2019, i’r cyfeiriad isod.
Am fanylion pellach a chopi o Swydd Ddisgrifiad cysylltwch a Sandra Davies, Rheolwr Gweithrediadau Castell Aberteifi, Castell Aberteifi, Green Street, Aberteifi, Ceredigion SA43 1JA