Home » Hanes

Hanes

Petai’r waliau hyn yn gallu siarad, byddai ganddyn nhw straeon difyr i’w hadrodd. Straeon am frwydrau gwaedlyd. Cymeriadau lliwgar. A dathliad diwylliannol hanesyddol.

    •  

      2015

      Castell Aberteifi yn ailagor fel atyniad treftadaeth, bwyty, llety a lleoliad digwyddiadau, ar ôl prosiect adfer gwerth £12m.

    •  

      2011

      Gwaith adfer yn dechrau ar y safle.

    • 2011

      Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan yn cael grantiau hollbwysig gan arianwyr, yn cynnwys Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru, i adfer Castell Aberteifi.

    •  

      2001

      Y papur lleol, The Tivy-Side Advertiser, yn dechrau ymgyrch 'Achub y Castell'.

    •  

      2003

      Cyngor Sir Ceredigion yn prynu'r Castell.

    •  

      1984

      Cyhoeddi bod 'Castle Green House' yn anaddas i bobl fyw ynddo. Miss Wood yn symud i mewn i garafán yn y gerddi.

    •  

      1999

      Miss Barbara Wood yn gadael y Castell ac yn symud i gartref nyrsio lleol.

    •  

      1961

      Castell Aberteifi yn dod yn Heneb Restredig a 'Castle Green House' yn dod yn adeilad rhestredig .

    •  

      1976

      Aberteifi yn cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol. Barbara Wood yn dechrau derbyn ymwelwyr yn achlysurol am 50c y pen, tan 1990.

    •  

      1941

      Llwyth masnachol olaf yn gadael harbwr Aberteifi.

    •  

      1942

      Aberteifi yn cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol.

    •  

      1808

      Adeiladu 'Castle Green House', ei ymestyn yn 1827.

    •  

      1940

      Codi Caer ('Pillbox') y Castell.

    •  

      1644

      Y Seneddwyr yn gosod gwarchae ar y Castell ac yn ei gipio o dan y Cadfridog Laugharne.

    •  

      1645

      Y Brenhinwyr yn gosod gwarchae ar Gastell Aberteifi, gan ddymchwel Pont Aberteifi yn rhannol. Y Brenhinwyr yn cael eu trechu a'r Castell yn cael ei ddinistrio a'i losgi.

    •  

      1501

      Katherine o Aragon yn cael Aberteifi fel rhan o'i gwaddol.

    •  

      1543

      Harri'r VIII yn rhoi ei Siarter olaf i Aberteifi.

    •  

      1469

      Morgan a Henry ap Thomas ap Gruffydd ap Nicholas yn cipio Castell Aberteifi.

    •  

      1485

      Richard Griffith and John Savage meet Henry Tudor at Cardigan Castle, en route to Bosworth.

    •  

      1414

      Richard Griffith a John Savage yn cwrdd â Harri Tudur yng Nghastell Aberteifi, ar y ffordd i Bosworth.

    •  

      1428-29

      29 Gwaith adnewyddu ar raddfa fawr yng Nghastell Aberteifi.

    •  

      1405

      60 o filwyr a 300 o saethyddion yn garsiynu Castell Aberteifi. Cefnogwyr Glyndŵr yn gosod gwarchae arno, ond heb lwyddiant.

    •  

      1406

      Y Tywysog Harri yn cael Castell Aberteifi.

    •  

      1376

      Yn dilyn marwolaeth Edward, y Tywysog Du, mae ei wraidd weddw, y Dywysoges Joan yn cynnal system weinyddol yn Aberteifi sy'n annibynnol ar y Goron. Mae gan y Castell ei drysorlys ei hun.

    •  

      1385

      Y Frenhines Joan yn marw ar y 7fed o Awst.

    •  

      1343

      Castell Aberteifi yn pasio i swyddogion Edward, y Tywysog Du.

    •  

      1349

      Y Pla Du yn cyrraedd Aberteifi a dim ond saith cartref llawn sydd ar ôl yn y dref.

    •  

      1301

      Y Tywysog Edward yn cael Aberteifi.

    •  

      1321

      Cwblhau tyred Castell Aberteifi.

    •  

      1284

      Edward I yn aros yng Nghastell Aberteifi ar 23 Tachwedd.

    •  

      1295

      Brenin Edward I yn aros yng Nghastell Aberteifi gyda byddin enfawr, rhwng 1 a 3 Mehefin.

    •  

      1279

      Y Brenin Edward yn gwneud Aberteifi yn Dref Sirol Sir Aberteifi.

    •  

      1282

      600 o filwyr troed yn garsiynu Castell Aberteifi.

    •  

      1245

      Dilynwyr Dafydd ap Llywelyn yn ymosod ar Gastell Aberteifi, ond yn methu â'i gipio.

    •  

      1254

      Y Brenin Edward yn cael Castell Aberteifi ar 14 Chwefror.

    •  

      1240

      Castell Aberteifi yn cael ei gipio a'i atgyfnerthu gan Walter Marshall.

    •  

      1244

      Robert Waleran yn dechrau ailadeiladu Castell Aberteifi a waliau'r dref.

    •  

      1223

      Castell Aberteifi yn cael ei gipio gan William Marshall II.

    •  

      1231

      Castell Aberteifi yn cael ei gipio gan Maelgwn ap Maelgwn ap Rhys.

    •  

      1197

      Yr Arglwydd Rhys yn marw ar 28 Ebrill.

    •  

      1215

      Dilynwyr Llywelyn ap Iorwerth yn cipio Castell Aberteifi.

    •  

      1171

      Rhys ap Gruffydd (yr Arglwydd Rhys) yn symud ei brif lys yma ac yn dechrau ailadeiladu'r Castell o garreg am y tro cyntaf. Credir mai hwn yw'r castell carreg cyntaf erioed i gael ei adeiladu gan Gymro.

    •  

      1176

      I ddathlu bod ei gastell newydd wedi'i gwblhau, yr Arglwydd Rhys yn cynnal yr hyn a dderbynnir bellach fel yr Eisteddfod gyntaf.

    •  

      1136

      Lluoedd Cymru yn ymosod ar y Castell yn ystod Brwydr Crug Mawr ar 10fed Hydref, ond yn methu â'i gipio.

    •  

      1165

      Ddechrau Tachwedd, Rhys ap Gruffydd yn cipio'r Castell gan ddefnyddio ysgolion dringo ac yn ei ddymchwel.

    •  

      1093

      Mae'r cyfeiriadau at gastell a sefydlwyd gan Iarll Roger de Montgomery wrth aber afon Teifi yn debygol o gyfeirio at y safle yn yr Hen Gastell, filltir i lawr yr afon.

    •  

      1110

      Mae'n debyg mai Gilbert fitz Richard de Clare oedd yn byw gyntaf yn y castell presennol.

    •  

      988 (Early Medieval)

      Y Llychlynwyr yn ysbeilio pentref cyfagos Llandudoch.

    •  

      1091 (Norman)

      Brwydr Llandudoch.

    •  

      Neolithic (c4500 BC – c2200 BC)

      Ysgrafelloedd fflint o'r cyfnod hwn wedi'u darganfod yng Nghastell.

      Diolch i Glen Johnson am yr help gyda’r lluniau sydd ar y dudalen hon ac am gyfrannu nifer o ‘The Glen Johnson Collection’.